© 2018 gan Iestyn Tyne

Noder mai fel canllawiau yn unig y bwriedir y geiriau Saesneg ar y dudalen hon, yn hytrach na gweithiau o safon lenyddol!

PENDEVIG .I (2018)

trac 1: LLIW GWYN

Lliw Gwyn Rhosyn yr Haf / White Summer Rose (tradd.)

“Dydd da fo i ti seren olau,
Lliw Gwyn Rhosyn yr Haf,
Tydi yw’r gywrain ferch a garaf,
Lliw Gwyn Rhosyn yr Haf.”
“Wel, cau dy geg yr hen oferddyn,
Y casaf erioed ar wyneb y tir!
Mi grogaf fy hun cyn dof i’th ganlyn,
Mewn gair, dyna ti’r gwir.”

“Y mae dy gusan di, fanwylyd,
Lliw Gwyn Rhosyn yr Haf,
R’un fath a duliau mel bob munud,
Lliw Gwyn Rhosyn yr Haf.”
“Ac felly mae dy gusan dithau,
Y casaf erioed ar wyneb y tir,
Yn ail i gam, yn ail i minnau,
R’hen geg, dyna ti’r gwir!”

“Os wyt ti am fy rhoi i heibio,
Lliw Gwyn Rhosyn yr Haf,
Wel dyro gusan cyn ffarwelio,
Lliw Gwyn Rhosyn yr Haf.”
“Wel… waeth i mi ddweud y gwir na pheidio,
Y mwynaf eriod ar wyneb y tir,
Cest ddwy o’r blaen, cei bymtheg eto.
Mewn gair, dyna ti’r gwir.”

“Dydd da fo i ti seren olau,
Lliw Gwyn Rhosyn yr Haf,
Tydi yw’r gywrain ferch a garaf,
Lliw Gwyn Rhosyn yr Haf.”
“Wel, cau dy geg yr hen oferddyn,
Y casaf erioed ar wyneb y tir!
Mi grogaf fy hun cyn dof i’th ganlyn,
Mewn gair, dyna ti’r gwir.”

“Y mae dy gusan di, fanwylyd,
Lliw Gwyn Rhosyn yr Haf,
R’un fath a duliau mel bob munud,
Lliw Gwyn Rhosyn yr Haf.”
“Ac felly mae dy gusan dithau,
Y casaf erioed ar wyneb y tir,
Yn ail i gam, yn ail i minnau,
R’hen geg, dyna ti’r gwir!”

“Os wyt ti am fy rhoi i heibio,
Lliw Gwyn Rhosyn yr Haf,
Wel dyro gusan cyn ffarwelio,
Lliw Gwyn Rhosyn yr Haf.”
“Wel… waeth i mi ddweud y gwir na pheidio,
Y mwynaf eriod ar wyneb y tir,
Cest ddwy o’r blaen, cei bymtheg eto.
Mewn gair, dyna ti’r gwir.”

"Good day to you, bright star,

as white as the Summer Rose,

You are the fine girl that i love,

as white as the Summer Rose."

"Well, shut you mouth, you vain old fellow;

the nastiest ever seen on the face of this land!

I would hang myself before courting you,

In a word, that is the truth!"

"Your kiss, my dearest,

as white as the Summer Rose,

is as honeycomb every minute,

as white as the Summer Rose."

"And so is your kiss,

the nastiest ever seen on the face of this land!

Second only to being wronged,

you big-mouth, that is the truth!"

"If your will is to cast me by,

as white as the Summer Rose,

well, give me a kiss before we say farewell,

as white as the Summer Rose."

"Well, I may as well tell the truth as not,

the finest seen on the face of this land;

you received two before, you shall have fifteen yet,

in a word, that is the truth!"

Gweld / Seeing (Iestyn Tyne, 2018)

un diwrnod hir fel blwyddyn 

roedd llwch y stafell flaen fel sêr 

     yn disgyn 

pan ddwedodd o yn ei ddagrau 

     na allai o ddim 

 

a dy adael di mor agored â llyfr 

ar ei hanner; mor noeth â thudalen 

mwythaist ei hen grysau 

     drwy’r dydd 

a chyfri’r botymau drwy dy fysedd; 

un-dau- ac yna’r tusw gwag  

o edau -pedwar-pump 

 

swatio fel dwrn mewn cesail 

o wely; ac yn y tŷ, byw ar  

bererindod araf, rhwng  

     cawod llugoer 

          a chegin. 

 

daeth dy ffrindiau’n resi 

     distaw 

i dalu’r deyrnged olaf i’r 

hyn a allai fod wedi bod 

yn rhywbeth nad oedd o erioed 

 

a chefaist, yng ngwin eu chwerthin 

dy wynt atat; craciodd 

yr haul dy ddwrn ar agor 

fel cragen las, ac anadlaist, 

 

ond erbyn anadlu, roeddan nhw  

     wedi mynd; 

wedi blino arnat ti’n  

tywallt dy hun drwy’r gobennydd. 

 

yn y boreau min-rasal 

roeddet ti’n deffro’n chwilio 

     hyd orwelion y gwely, yn 

cydio’n dynn ym mhorslen y sinc 

a chrïo i’r drych; 

taenu’r dyddiau’n denau fel menyn, 

a min nos, dawnsiet i’w hen 

ganeuon â’th lygaid ar gau. 

 

                    * 

 

un diwrnod hir fel blwyddyn 

rwyt ti’n anadlu eto, â sŵn asennau’n 

     cracio fel brigau Ionawr; 

a gwingo, mor las â’r geni 

 

mae’r dydd yn dy lenwi; yn cleisio 

     dy ysgyfaint brau  

ac rwyt ti’n ei frwydro - y dieithryn hwn 

sy’n diosg dy gragen fel deilen; 

dy ddadelfennu. 

 

yn y nos, weithiau, â 

     rhuban o ddagrau’n 

disgyn ar gynfasau oer; 

rwyt ti’n cau’n glep 

     am dy berfedd 

a thynnu’r llenni’n dynn 

 

ond daw fory bob dydd 

i lacio dy afael, ac heddiw 

rwyt ti’n pwytho botwm

     ar hen grys 

a’i smwddio’n onglau sgwâr. 

un diwrnod hir fel blwyddyn 

roedd llwch y stafell flaen fel sêr 

     yn disgyn 

pan ddwedodd o yn ei ddagrau 

     na allai o ddim 

 

a dy adael di mor agored â llyfr 

ar ei hanner; mor noeth â thudalen 

mwythaist ei hen grysau 

     drwy’r dydd 

a chyfri’r botymau drwy dy fysedd; 

un-dau- ac yna’r tusw gwag  

o edau -pedwar-pump 

 

swatio fel dwrn mewn cesail 

o wely; ac yn y tŷ, byw ar  

bererindod araf, rhwng  

     cawod llugoer 

          a chegin. 

 

daeth dy ffrindiau’n resi 

     distaw 

i dalu’r deyrnged olaf i’r 

hyn a allai fod wedi bod 

yn rhywbeth nad oedd o erioed 

 

a chefaist, yng ngwin eu chwerthin 

dy wynt atat; craciodd 

yr haul dy ddwrn ar agor 

fel cragen las, ac anadlaist, 

 

ond erbyn anadlu, roeddan nhw  

     wedi mynd; 

wedi blino arnat ti’n  

tywallt dy hun drwy’r gobennydd. 

 

yn y boreau min-rasal 

roeddet ti’n deffro’n chwilio 

     hyd orwelion y gwely, yn 

cydio’n dynn ym mhorslen y sinc 

a chrïo i’r drych; 

taenu’r dyddiau’n denau fel menyn, 

a min nos, dawnsiet i’w hen 

ganeuon â’th lygaid ar gau. 

 

                    * 

 

un diwrnod hir fel blwyddyn 

rwyt ti’n anadlu eto, â sŵn asennau’n 

     cracio fel brigau Ionawr; 

a gwingo, mor las â’r geni 

 

mae’r dydd yn dy lenwi; yn cleisio 

     dy ysgyfaint brau  

ac rwyt ti’n ei frwydro - y dieithryn hwn 

sy’n diosg dy gragen fel deilen; 

dy ddadelfennu. 

 

yn y nos, weithiau, â 

     rhuban o ddagrau’n 

disgyn ar gynfasau oer; 

rwyt ti’n cau’n glep 

     am dy berfedd 

a thynnu’r llenni’n dynn 

 

ond daw fory bob dydd 

i lacio dy afael, ac heddiw 

rwyt ti’n pwytho botwm

     ar hen grys 

a’i smwddio’n onglau sgwâr. 

one day, long as a year 

the dust in the front room fell like stars 

when he told you in tears 

     that he couldn’t 

 

and left you as open as a half-read 

book; as naked as a page 

you caressed his old shirts 

     all day 

and counted buttons through your fingers; 

one, two- and then an empty bunch 

of thread – four, five 

curled fist-like in bed 

and in the house, lived on a 

quiet pilgrimage between 

     lukewarm shower and kitchen 

your friends came in silent rows 

to pay their last respects to 

what could have been something 

it never was. 

and, in the wine of their laughter 

you caught your breath; the sun 

cracked your fists open 

like oysters, and you inhaled 

but by the time you inhaled, they 

     had gone; 

tired of you 

pouring yourself through pillows. 

in the razor-sharp mornings 

you would wake searching 

     the horizons of the bed; 

clutching cold porcelain 

and crying into the mirror; 

you spread the days like butter 

and at night, you would dance to his 

old songs with your eyes closed. 

                     * 

one day, long as a year 

you breathe again, and your ribs 

     crack like January branches; 

you writhe, as blue as birth 

the day fills you; bruises your 

     fragile lungs 

and you fight him – this stranger 

who sheds your shell as a leaf; 

decomposes you. 

at night, sometimes, when 

     a ribbon of tears 

fall on cold sheets, 

you close in 

     on yourself 

and shut the curtains tight 

but tomorrow comes every day 

to loosen your grip, and today, 

you stitch a button on 

     an old shirt 

and iron it to straight edges.

trac 4: MERCH Y MELINYDD

Merch y Melinydd / The Miller's Daughter (J. Ceiriog Hughes, 1832-1887)

Os yw fy annwyl gariad
Yn caru dwy neu dair,
Ac yn eu cadw'n fodlon
Bob marchnad a phob ffair;
O peidied yntau feddwl
Fod hynny'n boen i fi,
Rwyf fi mor rhydd ag yntau
I garu dau neu dri.

Phrioda i ddim eleni,
Chwedleua i ddim â neb,
Twyllodrus iawn yw meibion
A fedrant ddweud yn deg;
Po deced bo nhw'n d'wedyd,
O! gwaetha i gyd y daw,
Llawenydd pob merch ifanc
Yw  dewis ar ei llaw.

 

Os oes rhyw dair neu bedair
Yn hoff ohono ef,
Mae gennyf finnau bedwar
Ar bymtheg yn y dref;
Ond nhw sy'n dweud fel yma,
A nhw sy'n dweud fel hyn,
Dwyf fi ond gwenu arnynt,
A dal fy serch yn dynn.

Fe ddwed fy mod yn euog
Oherwydd gwrid fy moch,
Os gwrida ef yn welw,
Mi wrida innau'n goch;
A dwedaf yn ei wyneb
Ag wyneb dewr pob dyn,
"Llawenydd merch melinydd
Yw caru dim ond un."

Os yw fy annwyl gariad
Yn caru dwy neu dair,
Ac yn eu cadw'n fodlon
Bob marchnad a phob ffair;
O peidied yntau feddwl
Fod hynny'n boen i fi,
Rwyf fi mor rhydd ag yntau
I garu dau neu dri.

Phrioda i ddim eleni,
Chwedleua i ddim â neb,
Twyllodrus iawn yw meibion
A fedrant ddweud yn deg;
Po deced bo nhw'n d'wedyd,
O! gwaetha i gyd y daw,
Llawenydd pob merch ifanc
Yw  dewis ar ei llaw.

 

Os oes rhyw dair neu bedair
Yn hoff ohono ef,
Mae gennyf finnau bedwar
Ar bymtheg yn y dref;
Ond nhw sy'n dweud fel yma,
A nhw sy'n dweud fel hyn,
Dwyf fi ond gwenu arnynt,
A dal fy serch yn dynn.

Fe ddwed fy mod yn euog
Oherwydd gwrid fy moch,
Os gwrida ef yn welw,
Mi wrida innau'n goch;
A dwedaf yn ei wyneb
Ag wyneb dewr pob dyn,
"Llawenydd merch melinydd
Yw caru dim ond un."

If my beloved sweetheart

has love for two or three

and keeps each of them content

at every market and fair,

well, he shouldn't think

that this worries me:

for I am as free as he is

to love two or three.

I won't get married this year,

nor make conversation with anyone,

Lads are very deceitful

when they can speak fairly.

And the fairer they speak,

Oh! the worse will come about.

The joy of every young girl

Is to choose upon her hand.

If there are three or four

who are fond of him,

I have four and

fifteen admirers in town,

and some speak one way

and others another.

I only smile at them

and keep my love reserved.

He says that I am guilty

because of my blushing cheek;

If his cheek turns pale,

I will blush brightly

and will say to his face 

and every man's brave face:

"The joy of a miller's daughter

is to love only one".

trac 5: SYCHARTH

Detholiad o Llys Owain Glyndŵr yn Sycharth / Owain Glyndŵr's Court at Sycharth 

(Iolo Goch, c. 1320-1398)

(Llinellau 49-54)

 

To teils ar bob tŷ talwg,

[a] simnai ni fagai fwg.

Naw neuadd gyfladd gyflun,

A naw wardrob ar bob un.

Siopau glân glwys gynnwys gain,

Siop lawndeg fal Siep Lundain.

Croes eglwys gylchlwys galchliw,

Capelau a gwydrau gwiw.

 

(61-68)

 

Dolydd glân gwyran a gwair,

Ydau mewn caeau cywair.

Melin deg ar ddifreg ddŵr,

A’i glomendy gloyw maendwr.

Pysgodlyn cuddiglyn cau,

A fo rhaid i fwrw rhwydau.

Amlaf lle, nid er ymliw,

Penhwyaid a gwyniaid gwiw.

 

(75-82)

 

Pob llyn, bara gwyn a gwin,

A’i gig, a’i dân i’w gegin.

Pebyll y beirdd pawb lle bo,

Pe beunydd caiff pawb yno.

A gwraig oreu o’r gwragedd,

Gwyn ’y myd o’i gwin a’i medd!

Merch eglur llin marchoglyw,

Urddol hael o reiol ryw.

 

(85-86)

 

Anfynych iawn fu yno

Weled na chlicied na chlo.

 

(89-94)

 

Na gwall, na newyn, na gwarth,

Na syched fyth yn Sycharth.

Goreu Cymro tro trylew

Biau’r wlad, lin Bywer Lew,

Gŵr meingryf, goreu mangre,

A phiau’r llys, hoff yw’r lle.

 

 

A tiled roof upon every tall house

and a chimney where no smoke collects,

Nine identically proportioned halls

and nine wardrobes in each one.

Fair shops full of beautiful things,

as fair as the shops of London.

A church with a cross of white chalk,

Chapels of beautiful glass.

 

 

 

Clean meadows of grass,

and wheat in tidy fields,

a fair mill on unbroken water

and a dovecote of polished stone.

A closed and hidden fishpond

in which poachers cast nets

Oft a place (not without rebuke)

for pike and young salmon.

 

 

 

Every drink, white bread and wine,

and meat, and a fire in the kitchen.

All are at the tents of the bards,

if they can get in,

and the fairest of all the women

blessed is my world for her wine and mead!

A defined girl of knightly blood,

generous with grace.

 

 

 

Scarce are the times this place

saw a bolt or a lock

 

 

 

nor error, nor hunger, nor shame,

nor thirst ever in Sycharth,

the best, most courageous Welshman

owns this land, of Bywer Lew’s lineage,

a strong and slender man with the best of homes

owns this court, this beloved place.

trac 7: MAE'R ENAID YM MEIRIONNYDD

Detholiad o Caniad y Gog i Feirionnydd / The Cuckoo's Song to Meirionnydd

(Lewis Morris, 1701-1765)

Er a welais dan y sêr,

o lawnder, glewder gwledydd;

o gwrw da, a gwŷr i’w drin,

a gwin ar fin afonydd;

Gorau bîr, a gorau bwyd,

a ranwyd i Feirionydd.

 

Annwyl yw gan adar byd

eu rhyddid hyd y coedydd;

annwyl yw gan faban laeth

ei fammaeth, odiaeth ddedwydd.

O! Ni ddwedwn yn fy myw

mor annwyl yw Meirionydd.

 

Mwyn yw telyn o fewn tŷ

lle byddo teulu dedwydd;

pawb â’i bennill yn ei gwrs,

heb sôn am bwrs y cybydd.

Mwyn yw cân o ddeutu’r tân,

morwynion glân Meirionydd.

 

Er bod fy nghorff mewn hufen byd,

yn rhodio hyd y gwledydd,

yn cael pleser môr a thir,

ni chaf yn wir mo’r llonydd;

myned adre i mi sydd raid:

mae’r Enaid ym Meirionydd.

Whatever I’ve seen beneath the sky,

of rich and courageous countries,

of good beer and men to pour it,

and wine on river banks;

The best of beer and food

was shared to Meirionnydd.

 

The freedom of the forests

is dear to the birds of the world;

To the baby – the milk

of his mother, in wonderful bliss.

Oh! I would not dare to say

how dear Meirionnydd is to me.

 

Fair is the sound of a harp

in the house of a content family;

each with his verse in his turn

and no mention of the miser’s purse.

The song is fair around the fire

from the lips of Meirionnydd’s fair maids.

 

Although my body is in the lap of luxury

travelling across many countries

with all the pleasures of land and sea,

It is true to say that I cannot rest;

I must go home,

for the Soul is in Meirionnydd.

trac 8: ROCKFIELD REELS

Chwilia / Search (Iestyn Tyne, 2018)

yn y penwythnosau coll 

 

rhwng awyr boeth nos Wener a’r pnawniau Sul dibendraw; 

  

yng ngalar gitâr 

 

 yn y palmwydd pell sy’n cusanu’r traeth 

 

ar raglen deledu 

 

yn y geiriau y tu hwnt i flaen dy dafod; 

  

yn y tŷ sy’n dy dwyllo di i glywed traed yr wyt ti’n gwybod yn iawn na ddo’n nhw’r ffordd yma, mwy; 

 

ar ynysoedd pellenig 

  

yn hapusrwydd dy hen gariadon sy’n dy frifo, 

 

mewn hen lawysgrifau memrwn  

 

yn y bar am dri y bore,  

 

y tu ôl i baent sy’n plicio 

mewn emynau; 

  

yn y gwylanod tragwyddol, 

 

ar hyd y gorwel 

 

yn y strydoedd a’r bydoedd bach; 

 

yn y gwagle rhwng dau fys diog ar y nodau du yn y glaw 

  

mewn tafarn a chapel 

yr ochr arall i’r wal yr wyt ti’n ei basio bob dydd 

Chwilia

ac mi fydd rhywun yno'n dy ddisgwyl di

in the lost weekends 

 

between the hot air of Friday night and the endless Sunday afternoons 

 

in a guitar’s grief 

 

in the faraway palms which kiss the shore 

 

on a television program 

 

in the words beyond the tip of your tongue 

 

in the house which deceives you to hear footsteps you know won’t come by any more 

 

on remote islands 

 

in the happiness of past lovers which hurts you 

 

in vellum manuscripts 

 

in a bar at three in the morning 

 

behind peeling paint 

 

in hymns 

 

in the cry of ever-present gulls 

 

along the horizon 

 

in the smallest streets and worlds 

 

in the space between two lazy fingers on the black keys in the rain 

 

in pubs and chapels 

 

on the other side of that wall you pass every day 

 

Search

 

and someone will be there, waiting for you.